Browser does not support script.
Casnewydd - Dinas ar dwf »
Mae Casnewydd yn ddinas ddigidol lle gallwch gael mynediad at wi-fi am ddim.
Cafodd Cyngor Dinas Casnewydd Siarter Cynhwysiant Digidol Cymunedau Digidol Cymru (pdf) ym mis Gorffennaf 2016.
Mae wi-fi am ddim mewn dros 50 o adeiladau cyhoeddus, ar fysus Casnewydd, yn y gorsafoedd trên a bws, ym marchnad Casnewydd ac ar strydoedd canol y ddinas.
Mae’r symbol Wi-Fi Gyfeillgar yn helpu plant, pobl ifanc ac oedolion i ddod o hyd i leoliadau lle mae’r wi-fi wedi’i addasu i geisio blocio deunyddiau amhriodol, cynllun achrededig gyda Chyngor y DU dros Ddiogelwch Ar-lein i Blant.
Gall preswylwyr ac ymwelwyr gael mynediad at Gwmwl Cymunedol Casnewydd a Chysylltiad Dinas Casnewydd o unrhyw ddyfais ddi-wifr.
Gall band eang cyflym iawn fod yn ddefnyddiol i fusnesau o bob maint drwy eu galluogi nhw i gyfathrebu’n well gyda chwsmeriaid, trosglwyddo data’n gynt a gweithredu’n fwy effeithlon.
Gweld sut mae busnesau lleol wedi defnyddio band eang cyflym
Adnoddau
Lawrlwythwch Strategaeth Ddigidol Casnewydd 2015-2020 (pdf)
Asesiad o’r Effaith ar Breifatrwydd – Wi-Fi Cyhoeddus (pdf)
Canllawiau Cymunedau Digidol Cymru