Siwrne i Waith
Mae Siwrne i Waith yn broject tair blynedd yn ne ddwyrain Cymru, wedi ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Nod y project yw helpu pobl 25 oed a hŷn sy’n economaidd segur ac yn ddi-waith tymor hir i ennill y sgiliau a’r hyder sydd eu hangen i weithio.
Amcan Siwrne i Waith yw gweithio gyda dros 800 o bobl sydd â rhestrau cymhleth yn eu hatal rhag cael mynediad at hyfforddiant a chyflogaeth.
Cyngor Dinas Casnewydd sy’n arwain a rheoli project Siwrne i Waith, ar ran y sefydliadau canlynol sy’n rhoi cymorth ledled y rhanbarth:
Beth rydyn ni’n ei wneud
Gall tîm Siwrne i Waith helpu gyda:
- rhaglen i adfer ymgysylltiad, ar sail anghenion penodol unigolion
- cymorth, cyngor, arweiniad a mentora un wrth un
- cymorth gyda llythrennedd, rhifedd, llythrennedd digidol a magu hyder
- materion personol
- cymorth cyflogadwyedd
- ysgrifennu CV
- chwilio am swyddi
- technegau cyfweld
- cymwysterau
- lleoliad gwaith
- sgiliau ymarferol a gwybodaeth
- cyngor a chanllawiau cyrsiau
- sesiynau blasu dysgu pellach
- adolygu ac asesu cynnydd pob person yn barhaus
- cyngor a chymorth gydag arian
Cysylltu
Cysylltwch â’ch tîm Siwrne i Waith:
Neu cysylltwch ag arweinydd y tîm canolog Journey2Work@newport.gov.uk
Mae rhaglen Siwrne i Waith yn cael ei hariannu drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop
TRA94560 29/11/2018