Public Notices
Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) DrafftYmgynghoriad
4 Chwefror 2021– 1 Ebrill 2021
Mae'r Cyngor yn ymgynghori ar ddogfennau drafft sydd wedi'u paratoi i gefnogi'r polisïau yn y Cynllun Datblygu Lleol a Fabwysiadwyd.
Cynigion cyllidebol
8 Ionawr - 12 Chwefror 2021
Mae Cabinet y cyngor wedi ystyried y gyllideb ddrafft ar gyfer 2020/21 a sut y gellid darparu gwasanaethau o fewn yr adnoddau cyfyngedig sydd ar gael. Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn rhedeg tan 12 Chwefror 2020. Darllenwch fanylion llawn y cynigion ymgynghori a chwblhewch ein harolwg ymgynghori.
Trefniadau Derbyn i Ysgolion 2022
Yn unol â Chod Derbyn i Ysgolion statudol Llywodraeth Cymru, mae'n ofynnol i'r cyngor gynnal ymgynghoriad blynyddol ar drefniadau derbyn yn y flwyddyn ysgol sy'n dechrau ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol y byddai'r trefniadau yn berthnasol iddi.
Mae'r ymgynghoriad mewn perthynas â'r trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer mis Medi 2022 bellach yn fyw a rhaid i bob sylw ddod i law erbyn hanner dydd, 12 Chwefror 2021.
Darllenwch y ddogfen ymgynghori yma (pdf)
Ymgynghoriadau diweddar
Canolfan hamdden newydd a champws Coleg Gwent
17 Rhagfyr – 29 Ionawr 2021
Mae Cyngor Casnewydd yn cynnig creu canolfan hamdden a lles newydd yn ogystal â champws newydd yng nghanol y ddinas ar gyfer Coleg Gwent. Dysgwch fwy a dweud eich dweud yma.
Ehangu Ygol Bassaleg
Daeth i ben 12 Tachwedd 2020
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y cynnig i:
Cynyddu capasiti Ysgol Basaleg o 1,747 i 2,050 yn weithredol o fis Medi 2023.
Gorchymyn Rheoli Traffig, 5 Hydref - 30 Hydref 2020
Gorchymyn Mannau Parcio ar y Stryd ar gyfer Pobl Anabl a Dirymu 2020
Ymgynghoriad ffurfiol i gyfuno Ysgolion Meithrin Kimberley a Fairoak
Daeth i ben 11 Medi 2020
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y cynnig i:
Gyfuno Ysgol Feithrin Kimberley ac Ysgol Feithrin Fairoak yn un ysgol ar safle presennol Ysgol Feithrin Fairoak a hynny o fis Medi 2021.
Welliannau i Barc Black Ash a Monkey Islandd
Daeth i ben 8 Ebrill 2020
Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn bwriadu gwneud gwelliannau i Monkey Island a Pharc Black Ash. Dweud eich dweud.
Diolch am rannu eich barn
Dylai’n holl ymgynghoriadau fod ar gael yn Ddwyieithog, os nad ydynt dylech gysylltu â equalities@newport.gov.uk
Croesewir cyfraniadau ac ymatebion yn Gymraeg ac os ydych am fynychu digwyddiad cyhoeddus ac am ddefnyddio’r Gymraeg yna rhowch wybod i ni ymlaen llaw fel y gallwn drefnu cyfieithu ar y pryd equalities@newport.gov.uk
TRA115348 07/02/2020