Rydyn ni’n diweddaru system rheoli llyfrgelloedd Llyfrgelloedd Casnewydd ac efallai y bydd rhai gwasanaethau’n gyfyngedig yn ystod yr wythnos yn dechrau 18 Chwefror 2019.
Ni fydd y catalog na mynediad i gyfrifon ar-lein ar gael rhwng 18 a 25 Chwefror, ond gallwch adnewyddu llyfrau drwy e-bostio LION@newport.gov.uk.
Bydd gwasanaethau digidol, fel Bolinda Borrowbox, ar gael ar-lein o hyd.
Bydd cyfrineiriau aelodau’n cael eu hail-osod, sy’n golygu y bydd angen rhif PIN newydd ar ddefnyddwyr llyfrgell sydd angen mynediad i’w cyfrif ar-lein neu sy’n defnyddio cyfrifiadur rhwydwaith cyhoeddus mewn llyfrgell.
Bydd rhifau PIN newydd ar gael ar ôl 21 Chwefror o unrhyw un o lyfrgelloedd Casnewydd neu drwy e-bostio LION@newport.gov.uk.
Bydd dyddiadau benthyg eitemau sydd i’w dychwelyd yn ystod y cyfnod hwn yn cael eu hymestyn.
Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra tra bod y gwaith hwn yn cael ei wneud.
Chwilio, gwneud cais, adnewyddu
Dod o hyd i eitemau, eu cadw a’u hadnewydd o Lyfrgelloedd Casnewydd.
Manylion cyswllt, oriau agor a gwasanaethau yn ein llyfrgell leol yng Nghasnewydd
Gall pawb dros 16 oed ymuno heddiw ar-lein neu drwy fynd i’w llyfrgell leol
- lawrlwytho eLyfrau, eLyfrauLlafar ac eGylchgronau ar-lein
- mynediad am ddim i adnoddau gwybodaeth ar-lein gan gynnwys ffynonellau ymchwil hanes teuluol
Plant a phobl ifanc
Mae croeso i blant o bob oedran ddod i Lyfrgelloedd Casnewydd.
Adnoddau i’ch helpu i ddeall hanes a datblygiad Casnewydd
Mynediad am ddim i gyfrifiaduron, argraffwyr, sganwyr a chymorth yn eich llyfrgell Casnewydd leol
Digwyddiadau a Gweithgareddau
Amser stori, cymorth chwilio am swydd, hwyl i’r teulu a mwy – dysgwch beth sy’n digwydd yn Llyfrgelloedd Casnewydd.
Gweler hefyd...
Strategaeth Llyfrgelloedd Casnewydd 2017-2020 (pdf)
Ffioedd a thaliadau Llyfrgelloedd Casnewydd
TRA97604 15/02/2019