Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ymgynghori ar y cynnig i:
Gyfuno Ysgol Feithrin Kimberley ac Ysgol Feithrin Fairoak yn un ysgol ar safle presennol Ysgol Feithrin Fairoak a hynny o fis Medi 2021
Lawrlwythwch yr Adroddiad i'r Aelod Cabinet dros Addysg a Sgiliau (pdf)
Lawrlwythwch yr Atodlen Penderfyniad cysylltiedig (pdf)
Lawrlwythwch yr Asesiad o Degwch ac Effaith ar Gydraddoldeb (pdf)
Ymgynghori
Daw’r ymgynghoriad i ben am hanner nos, nos Wener 11 Medi 2020
Mae’r broses ymgynghori yn gyfle i bobl ddysgu am y cynnig, gofyn cwestiynau a gwneud sylwadau a gaiff eu cofnodi a’u crynhoi mewn adroddiad ymgynghori sydd wedi’i gyhoeddi isod.
Lawrlwythwch y ddogfen ymgynghori ffurfiol lawn (pdf)
Lawrlwythwch fersiwn gryno’r ddogfen ymgynghori (pdf)
Ni chaiff unrhyw ymatebion negyddol a wneir yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn eu hystyried yn wrthwynebiadau i’r cynnig ond yn hytrach yn sylwadau croes.
Dim ond ar ôl cyhoeddi hysbysiad statudol, sef ail gam y cynnig, y gellir cofrestru gwrthwynebiadau.
Daw’r ymgynghoriad i ben am hanner nos, nos Wener 11 Medi 2020
Adroddiad ymgynghori
Lawrlwythwch yr Adroddiad Ymgynghori (pdf) sy’n crynhoi’r broses ymgynghori ac ymgysylltu, sylwadau a ddaeth i law ac ymateb y cyngor.
Cyhoeddi Hysbysiad Statudol
Mae’r Aelod Cabinet wedi ystyried yr holl safbwyntiau a fynegwyd a’r ymatebion a gafwyd yn ystod y broses ymgynghori ffurfiol ac mae wedi penderfynu bwrw ymlaen â’r cynnig i’r cam hysbysiad statudol.
Cyfnod Rhybudd Statudol 1 Rhagfyr 2020 – 6 Ionawr 2021
Mae’r cyfnod hysbysiad statudol yn galluogi pobl i fynegi eu barn i gefnogi neu wrthwynebu’r cynnig.
Lawrlwythwch yr Hysbysiad Statudol (pdf)
Lawrlwythwch yr Adroddiad i’r Aelod Cabinet (pdf)
Lawrlwythwch yr Asesiad Effaith ar Degwch a Chydraddoldeb a ddiweddarwyd (pdf)
Lawrlwytho’r Atodlen Benderfynu gysylltiedig (pdf)
Beth sy’n digwydd nesaf?
Os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau ar ôl cyhoeddi'r cynnig statudol, bydd yr Aelod Cabinet yn gwneud y penderfyniad terfynol o ran p'un a ddylid parhau ai peidio.
Os derbynnir unrhyw wrthwynebiadau ac na chânt eu tynnu'n ôl wedyn yn ystod y cyfnod hysbysu hwn, Cabinet y Cyngor fydd yn gyfrifol am wneud y penderfyniad terfynol.